Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2022
Amser: 09.01 - 09.34
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Trafododd y Pwyllgor y sefyllfa o ran gwisgo gorchuddion wyneb. Dywedodd y Llywydd y bydd y defnydd o orchuddion wyneb yn cael ei annog yn y Siambr.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 3 Mai 2022
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Presenoldeb Ysgol (30 munud)
· Dadl: Hawliau Dynol (60 munud)
Dydd Mawrth 10 Mai 2022
· Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 (15 munud)
Gwnaeth Sian Gwenllian gais am wybodaeth bellach ynghylch Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022. Cytunodd y Trefnydd i ddarparu hyn yn dilyn y cyfarfod.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddileu’r eitem o fusnes a ganlyn:
Dydd Mercher 4 Mai 2022 –
Roedd hyn ar y sail nad oedd unrhyw gynigion wedi dod i law i'r Pwyllgor Busnes ddewis ohonynt erbyn y terfyn amser diweddar. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'n ceisio osgoi pennu terfynau amser ar gyfer cyflwyno cynigion arfaethedig gan Aelodau yn ystod cyfnodau toriadau yn y dyfodol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 18 Mai 2022 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad llafar am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i:
4.2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi adrodd ar y rheoliadau hyn cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn dydd Mawrth 26 Ebrill.
4.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ac y rhoddir sylw i'r pryderon a godir fel rhan o drafodaethau parhaus am y broses Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol rhwng swyddogion Comisiwn y Senedd a swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth Cymru
4.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei adroddiad ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ac argymhelliad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad mewn perthynas â diwygio'r Rheolau Sefydlog. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd i ystyried yr argymhelliad ymhellach os a phryd y caiff y Bil ei ddeddfu.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais Aelodau’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd i gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn o 15:30 ar 27 Ebrill.
6 Unrhyw faterion eraill
Cynulliad Partneriaeth Seneddol
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Pwyllgor Busnes am ei dull arfaethedig o benodi dirprwyaeth dros dro o'r Senedd i gyfarfod y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ar 12-13 Mai ym Mrwsel ac esboniodd y bydd, o ystyried yr amseru ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig, yn cysylltu â Chadeiryddion dau bwyllgor sydd â chylchoedd gwaith perthnasol i gynrychioli'r Senedd fel arsylwyr: Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad; a Paul Davies, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Unwaith y bydd y ddirprwyaeth wedi'i chadarnhau, byddai'r Llywydd yn hysbysu'r Pwyllgor Busnes.
Dywedodd y Llywydd y bydd yn cychwyn sgwrs yn ddiweddarach yn y tymor gyda'r Pwyllgor Busnes a Fforwm y Cadeiryddion ynghylch cyfansoddiad dirprwyaethau'r Senedd i'r CPA ac i'r Fforwm Rhyngseneddol yn y tymor hwy.
Rhoddodd y Llywydd ddiweddariad i'r Pwyllgor hefyd am y sefyllfa bresennol o ran enwebiadau'r Senedd ar gyfer dirprwyaeth y DU i Gyngres yr Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol yng Nghyngor Ewrop, nad ydynt wedi'u cadarnhau eto. Bydd y mater yn cael ei ddwyn yn ôl i'w drafod pe bai angen i'r Pwyllgor Busnes ei ystyried ymhellach.